Y Pwyllgor Menter a Busnes – Ymchwiliad i Dwristiaeth yng Nghymru

 

2 Gorffennaf 2014

 

Cyflwyniad

 

 

1.    Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sy’n gyfrifol am hybu twristiaeth yng Nghymru, a hi hefyd sy’n gyfrifol am Croeso Cymru. Mae’r portffolio Chwaraeon a Diwylliant hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig drwy’r asedau a’r gwasanaethau diwylliannol, hanesyddol, naturiol a chwaraeon y mae’n gyfrifol amdanynt. Mae perthynas waith gadarn â Croeso Cymru wrth wraidd y cyfan.

 

Yr amgylchedd hanesyddol

 

2.    Dengys ymchwil Croeso Cymru ynghylch ymwelwyr nad ydynt yn byw yng Nghymru fod diddordeb mewn cestyll a safleoedd hanesyddol yn ffactor hollbwysig yn eu penderfyniad i ymweld â Chymru:

 

-       Roedd 58% o’r ymwelwyr a holwyd yn awyddus iawn i ymweld â mannau, safleoedd hanesyddol ac atyniadau penodol

-       Roedd 61% o’r ymwelwyr o dramor yn nodi bod cestyll neu atyniadau hanesyddol yn rhesymau penodol dros ymweld â Chymru; yn ddiamau dyma’r rheswm penodol mwyaf cyffredin dros ddymuno ymweld â Chymru

-       Daeth 34% o’r ymwelwyr a oedd yn aros yn y DU ac a holwyd yn arolwg ymwelwyr Croeso Cymru yn 2013 i weld cestyll neu safleoedd hanesyddol eraill.

 

3.    Ceir amrywiadau rhanbarthol o safbwynt tarddiad ymwelwyr, ond yn y misoedd prysuraf (hy mis Gorffennaf a mis Awst) mae tua 24% yn byw yng Nghymru, daw 60% o fannau eraill yn y DU a daw 16% o dramor.

 

Gwariant twristiaid

 

4.    Mae sector yr amgylchedd hanesyddol yn cefnogi dros 30,000 o swyddi. Yn 2010, bu i’r adroddiad Gwerthfawrogi Amgylchedd Hanesyddol Cymru gan Ecotec Research and Consulting Ltd amcangyfrif bod gwariant gan ymwelwyr y gellir ei briodoli i’r amgylchedd hanesyddol wedi cyfrannu rhyw £330 miliwn at werth ychwanegol crynswth (GYC) Cymru, a thros £610 miliwn o ran cynnyrch. O gynnwys effeithiau anuniongyrchol ac ysgogedig, amcangyfrifir bod gwariant gan ymwelwyr yn sector yr amgylchedd hanesyddol yn cefnogi dros 14,880 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yng Nghymru.

 

5.    O blith y 129 o safleoedd o dan ofal Cadw, mae 30 ohonynt yn codi tâl mynediad. Yn 2013-14, gwariodd ymwelwyr gyfanswm o £4,860,269 ar y 30 safle. Roedd niferoedd cyffredinol yr ymwelwyr â’r safleoedd sy’n cael eu staffio gan Cadw yn sefydlog ym mlwyddyn ariannol 2013/14 o’i gymharu â 2012/13 – 780,722 o ymweliadau â thâl a 411,885 o ymweliadau am ddim. Cafwyd cynnydd neilltuol dros wyliau haf yr ysgolion a gwyliau banc mis Mai – gyda chynnydd sylweddol o ran ymweliadau gan deuluoedd ym mis Mai (cynnydd o 112% o’r naill flwyddyn i’r llall).

 

 

6.    Mae lefelau bodlonrwydd yn uchel ac yn gwella. Dangosodd arolwg Cadw yn 2013 y byddai 94% o’r ymwelwyr â safleoedd Cadw yn eu hargymell i’w teulu a’u ffrindiau. Ategwyd y dystiolaeth hon gan dystiolaeth ar wefannau fel TripAdvisor lle sgoriodd pedwar castell Safleoedd Treftadaeth y Byd 4.5 allan o 5 a derbyniodd bob un ohonynt dystysgrif rhagoriaeth yn 2014.  

 

Y berthynas â Croeso Cymru

 

7.    Mae gan Cadw berthynas waith gref â Croeso Cymru ac maent wedi cydweithio i sicrhau bod eu blaenoriaethau strategol yn cydweddu â’i gilydd ac i gyfuno’u hymdrechion o ran twristiaeth. Mae hyn yn cynnwys rôl allweddol Cadw mewn ymgyrch farchnata uchel ei phroffil gwerth £4m a gynhaliwyd ar y cyd i hyrwyddo’r prosiectau Amgylchedd ar gyfer Twf (E4G) sy’n cael eu hariannu gan yr UE. Bu i Cadw fuddsoddi £50k yn yr ymgyrch hon a chafodd sylw ffafriol ynddi. Mae dwy o henebion Cadw i’w gweld yn amlwg yn yr hysbyseb deledu, yn ogystal â’r ymgyrch farchnata hollol integredig sy’n cynnwys post uniongyrchol, teledu, sinema, deunydd print, nawdd a hysbysebion ar-lein.

 

8.    Ymhlith enghreifftiau eraill o’r gwaith partneriaeth rhwng Cadw a Croeso Cymru mae gwaith ymchwil ar y cyd ymhlith ymwelwyr i sicrhau cysondeb ac i arbed costau caffael. Comisiynwyd prosiect ymchwil ynghylch gwybodaeth i ymwelwyr mewn partneriaeth â Croeso Cymru, Amgueddfa Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Cadw hefyd yn arddangos yn sioeau masnach y diwydiant teithio ar y cyd â Croeso Cymru.

 

9.    Mae hyn wedi galluogi Cadw i feithrin partneriaethau cadarn â rhanddeiliaid a chymunedau, ac mae wedi’i helpu i ddatblygu’r profiad a’r cynnyrch sydd ganddo i’w cynnig ar ei brif safleoedd i ddenu mwy o ymwelwyr ac i greu mwy o refeniw i Cadw. Bydd yr incwm sy’n cael ei godi gan Cadw drwy dâl mynediad yn cael ei ailfuddsoddi mewn gweithgareddau a gwelliannau i’r gwasanaethau ar ei safleoedd. Caiff y rhain eu targedu’n rhannol at deuluoedd incwm isel a grwpiau eraill nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Hefyd, mae cymunedau o amgylch safleoedd treftadaeth yn dibynnu ar y safleoedd i godi’u proffil ymhlith ymwelwyr ac i ddenu gwariant atodol gan ymwelwyr.

 

10.Mae prif ymgyrchoedd marchnata eraill Cadw’n apelio at rieni, drwy gynnig dyddiau allan difyr, diddorol a rhad i deuluoedd dros wyliau’r haf yn bennaf. Ym mis Awst 2013, cafwyd cynnydd o 14% o’r naill flwyddyn i’r llall yng nghyfanswm yr ymweliadau â thâl â safleoedd Cadw, ac roedd yr incwm a godwyd drwy dâl mynediad 27% yn uwch o’i gymharu â’r un mis yn 2012.

 

11.Mae Cadw hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar farchnata digidol. Ar gyfartaledd, roedd cyfanswm yr ymweliadau a’r ymweliadau unigryw â’r wefan 66% yn uwch yn 2013 na 2012, ac mae cynnydd o 40% ar gyfartaledd o ran nifer yr ymweliadau â thudalennau gwe’n awgrymu bod pobl yn fwy bodlon â’r cynnwys. Mae Cadw’n defnyddio cyfrifon Facebook a Twitter i fynd ati i ryngweithio â phobl, ac mae cynlluniau marchnata 2014 yn cynnwys cyflwyno adran ar-lein i aelodau, creu adran i blant ar y wefan, gwella’r wefan at ddibenion chwilotwyr ar-lein, cyflwyno system ymaelodi ar-lein, defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol newydd fel Pinterest, defnyddio ffeithlun ar-lein i roi Cynllun Dehongli Cymru Gyfan ar waith, defnyddio ffilmiau newydd a rhyngweithio â blogwyr dylanwadol.

 

Prosiect Twristiaeth Treftadaeth

 

12.Mae Cadw hefyd yn rheoli Prosiect Twristiaeth Treftadaeth i ddatblygu twristiaeth treftadaeth yng Nghymru. Nod y prosiect, sy’n cael ei ariannu i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfeydd Cydgyfeirio’r UE, yw sicrhau’r budd economaidd mwyaf o dreftadaeth drwy gynyddu nifer yr ymweliadau â Chymru, hyd yr ymweliadau hynny a’u gwerth. Cychwynnodd y prosiect yn 2009 a bydd ar waith tan fis Mawrth 2015. Cyfanswm gwerth y prosiect yw £19m.

 

13.Yn 2013, bu i brosiect ymchwil gan Ysgol Fusnes Caerdydd ar chwe safle mawr sy’n gysylltiedig â’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth ganfod £6.95m o werth ychwanegol crynswth (GYC) ychwanegol fesul safle ar gyfartaledd, ac roedd modd priodoli £1.75m o’r GYC yn uniongyrchol i’r safle. Y chwe safle oedd Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Caernarfon, Castell Caerffili, Castell Conwy, Castell Harlech a Llys yr Esgob yn Nhyddewi.

 

Safleoedd Treftadaeth y Byd

 

14.Yn ogystal, mae Cymru’n ymfalchïo yn y ffaith fod tri Safle Treftadaeth y Byd ymhlith ei threftadaeth gyfoethog, sef Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’r rhain yn safleoedd eiconig ac mae diwydiant llechi’r Gogledd wedi’i gynnwys ar restr fer y DU o’r safleoedd a allai gael eu dynodi’n Safleoedd Treftadaeth y Byd yn y dyfodol.

 

15.Gyda’i gilydd, mae’r cestyll sy’n cael eu rheoli gan Cadw yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yn creu un Safle Treftadaeth y Byd gan ddenu bron i 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Daw cyfanswm o £2.6m y flwyddyn ar gyfartaledd dim ond o’r pedwar castell sy’n rhan o’r Safle Treftadaeth y Byd.

 

16.Dros y blynyddoedd diwethaf, cyflawnwyd gwaith mawr i wella’r cyfleusterau i ymwelwyr a’r deongliadau yn y Safleoedd Treftadaeth y Byd o dan ofal Cadw. Yn sgil y gwaith hwn, cafwyd cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r incwm manwerthu. Er enghraifft, ers mis Chwefror 2012, yn sgil gwaith helaeth i wella’r cyfleusterau i ymwelwyr yng Nghastell Conwy, mae niferoedd yr ymwelwyr a’r incwm fel a ganlyn:

 

Blwyddyn

Ymwelwyr

Incwm (y cyfan)

2011-12

173,585

£847,981

2012-13

167,823

£904,627

2013-14

176,823

£1,030,344

 

 

Digwyddiadau treftadaeth

 

17.Mae digwyddiadau treftadaeth hefyd yn rhan bwysig o’r hyn sydd gan dwristiaeth treftadaeth i’w gynnig. Yn 2013-14, cynhaliodd Cadw dros 200 o ddigwyddiadau a dyddiau allan ar draws Cymru, gan gynnwys gweithgareddau cyfranogi ar ei safleoedd a sioeau haf, teithiau tywys, sgyrsiau, hanes byw a pherfformiadau byw. Mae Cadw wedi mynd ati’n ofalus i sicrhau bod y digwyddiadau’n gysylltiedig â chynlluniau dehongli’i henebion.

 

18.Mae ‘Drysau Agored’ yn rhan o Ddiwrnodau Treftadaeth Ewrop sy’n cael eu cynnal mewn 50 o wledydd ledled Ewrop. Bydd Cadw’n rheoli’r camau i roi ‘Drysau Agored’ ar waith yn uniongyrchol am y tro cyntaf ym mis Medi 2014, gan gydweithio â phartneriaid o sefydliadau treftadaeth ar hyd a lled Cymru.

 

19.Hwn yw’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru i ddathlu adeiladau, pensaernïaeth a safleoedd treftadaeth, a’r digwyddiad mwyaf i wirfoddolwyr yn sector treftadaeth Cymru. Mae’r rhaglen yn gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchenogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau a rhoi cyfle i’r cyhoedd ddarganfod trysorau cudd a chrwydro ar hyd safleoedd hanesyddol am ddim rywbryd yn ystod mis Medi.

 

20.Y llynedd bu i’r rhaglen yng Nghymru ddenu dros 80,000 o ymwelwyr i 500 o ddigwyddiadau, a llwyddodd y rhaglen i ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr a oedd wedi teithio o fannau eraill. Mae 350 o leoliadau wedi cofrestru i agor eu drysau i’r cyhoedd ym mis Medi eleni.

 

Y Bil Treftadaeth

 

21.Byddwn yn cyflwyno’r Bil Treftadaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol y gwanwyn nesaf. Os caiff ei basio, darpariaethau’r Bil hwn fydd y darpariaethau cyntaf ym maes yr amgylchedd hanesyddol i gael eu deddfu o ran Cymru’n benodol. Bydd y Bil yn rhan o gorff integredig o ddeddfwriaeth, polisi, cyngor a chanllawiau a fydd yn cyflwyno gwelliannau pwysig i’r modd y mae amgylchedd hanesyddol Cymru’n cael ei warchod a’i reoli’n gynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau bod modd i’n hamgylchedd hanesyddol barhau i roi buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ystyrlon i bobl Cymru, a chwarae rôl allweddol o ran yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr.

 

Twristiaeth Gweithgareddau

 

Y Papur Gwyrdd Mynediad a Hamdden Awyr Agored

 

22.Mae darllenwyr y Rough Guide wedi enwi Cymru fel un o’r mannau gorau i ymweld â hi yn 2014. Roedd y darllenwyr yn edmygu’r holl harddwch ffisegol sy’n rhan o fas mor fach o dir, sy’n cynnwys cadwyni gwych o fynyddoedd, dyffrynnoedd hardd, arfordir garw a chestyll hynafol.

 

23.Mae gwelliannau parhaus sy’n galluogi ymwelwyr i gael mynediad at gefn gwlad Cymru’n ffactor pwysig i’n galluogi i gystadlu â chyrchfannau eraill i ymwelwyr. Byddaf yn lansio’r Papur Gwyrdd Mynediad a Hamdden Awyr Agored ar ôl toriad yr haf i gasglu sylwadau am ffyrdd o wella mynediad at dir i’r cyhoedd a hwyluso mynediad gwirfoddol at ddŵr.

 

24.Yn ôl Arolwg Cyfoeth Naturiol Cymru o Hamdden Awyr Agored atyniadau natur yw’r mannau y mae ymwelwyr sy’n aros yng Nghymru yn ymweld â hwy fwyaf (73%), a hwy yw’r atyniadau mwyaf poblogaidd ond un y mae ymwelwyr dydd yn fwyaf tebygol o ymweld â hwy (58%). Mae cerdded yn ysgogi gwerth £562 miliwn o alw ychwanegol yn economi Cymru, £275m o werth ychwanegol crynswth a thua 11,980 o flynyddoedd gweithiwr.  

 

Y Ddeddf Teithio Llesol

 

25.Yn unol â Deddf Teithio Llesol (2013), sef y cyntaf o’i math yn y byd yn ôl pob tebyg, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol Cymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol, ac adeiladu a gwella’u seilwaith cerdded a beicio bob blwyddyn. O wella’r seilwaith, bydd yn creu gwell amodau i fusnesau sy’n darparu gwyliau cerdded neu feicio yng Nghymru er mwyn iddynt ehangu mewn modd cynaliadwy.

 

26.Gallai twristiaeth elwa’n fawr ar hyn gan y bydd yn sicrhau ei bod hi’n haws cyrraedd trefi a dinasoedd a’i bod yn haws crwydro o’u hamgylch. Byddwn yn annog yr Awdurdodau Lleol i ystyried a fyddai’u diwydiant twristiaeth neu’u diwydiant hamdden lleol yn elwa pe bai rhannau o’u rhwydwaith yn hygyrch i geffylau. Bydd hyn yn ychwanegu at y cyfleusterau beicio mynydd o safon byd a’r llwybrau cerdded a beicio cenedlaethol helaeth sydd gan Gymru i’w cynnig i ymwelwyr, ochr yn ochr â Llwybr Arfordir Cymru.

 

Llwybr Arfordir Cymru

 

27.Pan agorwyd Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai 2012, codwyd mwy o ymwybyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o’r llwybr hir hwn sy’n 870 milltir o hyd. Roedd yn un o’r prif resymau pam y bu i Lonely Planet enwi Arfordir Cymru yn “rhanbarth gorau’r byd” i ymweld ag ef yn 2012. (Best in Travel, Lonely Planet, 2012).

 

28.Dangosodd data arolwg gan Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2013 fod Llwybr Arfordir Cymru wedi sicrhau 835,000 o arosiadau dros nos ac 1.6 miliwn o ymweliadau dydd gan oedolion rhwng mis Medi 2011 a mis Awst 2012. Amcangyfrifwyd bod y gwariant cyffredinol gan ymwelwyr y gellir ei briodol i Lwybr Arfordir Cymru wedi creu £32.2 miliwn o alw ychwanegol yn economi Cymru. Ers hynny, mae astudiaethau wedi awgrymu ei fod yn cynhyrchu rhyw £16 miliwn o werth ychwanegol crynswth i economi Cymru bob blwyddyn. Mae hyn yn dangos potensial y sector hamdden awyr agored i economi Cymru. Bu i’r gweithgarwch economaidd a ddeilliodd o gwblhau Llwybr Arfordir Cymru gyfrif am tua 730 blwyddyn gweithiwr.

 

29.Sefydlwyd Grŵp Cyfathrebu a Marchnata Llwybr Arfordir Cymru fel fforwm i drafod y ffordd orau o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd i hyrwyddo Llwybr yr Arfordir ac i wneud y gorau o’r ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus sy’n gysylltiedig ag ef. Mae swyddogion o’r Adran Diwylliant a Chwaraeon, Croeso Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru’n aelodau o’r grŵp hwn ac maent yn cydweithio’n agos i sicrhau bod y prif negeseuon yn gyson ac yn ystyrlon.

 

30.Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymgyrch “Caru Arfordir Cymru” i ddathlu dwy flynedd ers lansio Llwybr yr Arfordir ond hefyd i roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod y Llwybr ar agor ar ôl y stormydd enbyd a gafwyd yn gynharach eleni. Bydd y Grŵp Cyfathrebu a Marchnata’n ceisio hyrwyddo dwy ymgyrch arall eleni i helpu i gynnal y momentwm hyrwyddo.

 

Y Parciau Cenedlaethol

 

31.Mae dros 12 miliwn o bobl yn ymweld â’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru bob blwyddyn sydd, yn ôl adroddiad Arup yn 2013, yn cyfrannu tua £1 biliwn o wariant at economi Cymru bob blwyddyn. Mae wyth o’r 50 o atyniadau yng Nghymru sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr wedi’u lleoli yn y Parciau Cenedlaethol. Mae ymwelwyr â’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrif am gyfran sylweddol o ddiwydiant twristiaeth Cymru.

 

32.Yr hyn sy’n bwysig yw bod y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru’n denu cyfran uchel o ymwelwyr sy’n aros dros nos, gydag ymwelwyr yn treulio 2.26 diwrnod yma ar gyfartaledd. Gan fod yr ymwelwyr yn dueddol o aros dros nos, mae gwariant cyfartalog ymwelwyr â’r Parciau yng Nghymru yn uwch, sef £87 y pen, o’i gymharu â £60 yng ngweddill y DU.

 

33.Nid yw ffiniau’r Parciau’n cyfyngu ar yr ymwelwyr ac mae’r sectorau twristiaeth tu mewn a thu allan i’r Parciau’n dibynnu’n fawr ar ei gilydd. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cyfrannu’n gadarnhaol at ‘frand’ twristiaeth Cymru ac mae statws a phroffil y Parciau Cenedlaethol yn ddihafal o’u cymharu â rhannau eraill o Gymru.

 

34.Mae’r Parciau Cenedlaethol yn arwain y blaen o ran y marchnadoedd twf ym maes twristiaeth antur a thwristiaeth gynaliadwy, ac mae ethos y Parciau’n cydweddu’n dda â’r negeseuon y mae Cymru’n ceisio’u cyfleu i ddarpar ymwelwyr.

 

Grŵp Tirweddau Gwarchodedig Croeso Cymru

 

35.Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru, pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Croeso Cymru ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru. Diben y grŵp yw hybu mwy o gydweddu strategol o ran blaenoriaethau, buddsoddiadau, datblygiadau a gwaith hyrwyddo ym maes twristiaeth, ac annog yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol a Chynlluniau Rheoli Cyrchfannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i gydweithio mwy i ddatblygu’r gwaith o reoli cyrchfannau twristiaeth mewn ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru. Bydd hyn yn meithrin partneriaethau effeithiol, yn sicrhau bod dull cyson ar waith yn yr ardaloedd hyn i ddatblygu ac i hyrwyddo twristiaeth, ac yn osgoi dyblygu ymdrechion ac adnoddau.

 

Twristiaeth Ddiwylliannol

 

 

36.Wrth gwrs, mae amgueddfeydd ac orielau’n atyniadau pwysig i ymwelwyr a gall digwyddiadau diwylliannol, fel gwyliau, hefyd ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr. Gall gweithgareddau creadigol a diwylliannol sy’n codi proffil Cymru o fewn y DU a thramor hefyd helpu i ddenu twristiaid i Gymru.

 

Y Strategaeth Amgueddfeydd

 

37.Mae ein Strategaeth Amgueddfeydd yn cydnabod gwerth twristiaeth ddiwylliannol ac mae’n annog amgueddfeydd i gyfrannu at adeiladu economi gadarn drwy gyfrwng twristiaeth ddiwylliannol ac i hybu adfywio drwy gyfrwng diwylliant.

 

38.Gan ddefnyddio data a gasglwyd yn 2011 a’r pecyn asesu effaith economaidd a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol, amcangyfrifir bod amgueddfeydd lleol yn cyfrannu £128 miliwn at economi Cymru (sef £69.6 miliwn o’r amgueddfeydd lleol a £58.3 miliwn o’r amgueddfeydd cenedlaethol).

 

39.Yn ystod 2012-13, bu 1.74 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru. Roedd y ffigur ychydig yn is ar gyfer 2013-14, sef 1.63 miliwn (yn sgil y ffaith bod y Pasg yn hwyrach y flwyddyn honno) ond roedd yn uchel o hyd.

 

 

Sain Ffagan

 

40.Sain Ffagan yw atyniad unigol mwyaf Cymru i dwristiaid. Yn 2011, dywedodd darllenwyr y cylchgrawn Which? mai Sain Ffagan oedd eu hoff atyniad i ymwelwyr yn y DU. Rhoddodd Which? statws Darparwr a Argymhellir i Sain Ffagan hefyd, statws sy’n cael ei chwennych gan lawer. Felly, mae’r prosiect gwerth £25m i ailddatblygu Sain Ffagan yn anelu at gynyddu nifer yr ymwelwyr o 600,000 i 850,000 erbyn 2021. Dyma ymrwymiad sylweddol i ddatblygu diwydiant twristiaeth Cymru. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn hydref 2014 a chaiff ei gwblhau erbyn 2017.

 

41.Dyma’r prif fuddion economaidd sy’n gysylltiedig â phrosiect Sain Ffagan:

 

-       £500k o incwm masnachol ychwanegol drwy weithgareddau a masnach;

-       Rhwng £165k a £260k o wariant ychwanegol gan yr Amgueddfa yn economi Caerdydd;

-       Cyfraniad at broffil Caerdydd fel cyrchfan â chyfleusterau o ansawdd uchel i ymwelwyr;

-       Cyfraniad at fywiogrwydd economaidd cyffredinol a brand Caerdydd fel canolfan economaidd ac un o ddinasoedd mawr Ewrop.

 

42.Amcangyfrifir y bydd ymwelwyr yn gwario £5.5m y flwyddyn yn ychwanegol yn ardal Caerdydd erbyn 2020-21.

 

Partneriaethau

 

43.Mae gwahanol weithgareddau partneriaeth hefyd ar waith neu wedi digwydd – arddangosfeydd celf uchel eu proffil o gasgliad Amgueddfa Cymru mewn pedair oriel gelf yn America; dathliadau Patagonia 2015; arddangosfeydd o Gymru yn Tsieina ac arddangosfeydd o Tsieina yng Nghymru; a chamau i ddatblygu deialog gydweithredol â Llyfrgell Shanghai. Mae’r gweithgareddau hyn yn codi proffil Cymru a’i diwylliant ar draws y byd.

 

Arolwg Ymwelwyr Amgueddfeydd 2013

 

44.Dangosodd Arolwg Ymwelwyr Amgueddfeydd 2013 fod amgueddfeydd Cymru’n dal i fod yn boblogaidd. Byddai wyth o bob deg ymwelydd sy’n ymweld ag amgueddfa yn ystod eu hymweliad â Chymru yn argymell bod ffrind neu berthynas yn ymweld â’r amgueddfa. Yn ogystal â’r argymhellion cadarnhaol gan y rhai sy’n ymweld â’r amgueddfeydd, dangosodd yr arolwg yr hyn a ganlyn hefyd:

 

-       Bod nifer yr ymwelwyr sy’n credu bod ein hamgueddfeydd yn “lleoedd cyfeillgar a chroesawgar” wedi codi o 75% yn 2011 i 84% yn 2013

 

-       Bod 56% o’r ymwelwyr tramor yn dweud eu bod wedi ymweld ag amgueddfa neu’u bod yn bwriadu gwneud hynny yn ystod eu hymweliad â Chymru (o’i gymharu â 27% ar draws y DU)

 

-       Mai ymweld ag amgueddfeydd yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd ond dau ymhlith ymwelwyr â Chymru (23%) – mynd i’r traeth yw’r gweithgaredd mwyaf poblogaidd (42%)

 

-       Y prif reswm pam fod y rhai sydd ar wyliau’n ymweld ag amgueddfa yw er mwyn iddynt ddod i wybod am y lleoedd y maent yn ymweld â nhw neu’n aros ynddynt (49%). Mae hyn yn sylweddol uwch na ffigur 2011, sef 31%. Rhoddir y rheswm hwn amlaf gan ymwelwyr tramor (78%) a thros hanner (54%) yr ymwelwyr o’r DU sy’n aros yma.

 

-       O ran proffil partïon, pobl sy’n ymweld â Chymru ar eu pen eu hunain sydd fwyaf tebygol o ymweld ag amgueddfa. Mae tua chwarter (24%) eisoes wedi ymweld ag amgueddfa, ac mae 21% arall yn bwriadu gwneud hynny. Grwpiau wedi’u trefnu a chymdeithasau sydd leiaf tebygol o ymweld ag amgueddfa, gyda dim ond 14% yn dweud eu bod wedi gwneud hynny eisoes neu y byddant yn gwneud hynny.

 

Sicrhau ansawdd o ran twristiaeth

 

45.Rydym yn cydweithio â Croeso Cymru i ddarparu asesiadau VAQAS ar gyfer holl amgueddfeydd lleol achrededig Cymru (mae pob un ohonynt yn bodloni safon VAQAS ar hyn o bryd). Safon sicrwydd ansawdd sy’n canolbwyntio ar dwristiaeth ac sy’n cael ei gweinyddu yng Nghymru gan Croeso Cymru yw hon.

 

46.Defnyddir adroddiadau VAQAS gan Croeso Cymru i ddarparu tystiolaeth er mwyn ennill achrediad. Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth am safonau’r gwasanaeth y mae ymwelwyr ag amgueddfeydd yn ei gael ac maent yn dangos cryfder yr amgueddfeydd a’r orielau fel cyrchfannau i ymwelwyr.

 

47.Yn ystod 2012/13, cafodd Tîm Marchnata Cyngor Wrecsam arian drwy raglen grantiau CyMAL i lunio strategaeth genedlaethol i ddatblygu cynulleidfa ac i farchnata amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth Cymru. Lansiwyd y Strategaeth ym mis Hydref 2013 yng nghynhadledd uchel ei phroffil Cymdeithas Amgueddfeydd y DU yn Lerpwl.

 

48.Bu i’r ymchwil ymhlith rhanddeiliaid ar gyfer y Strategaeth bennu dau brif faes i ganolbwyntio arnynt:

 

-       Meithrin gallu a chynaliadwyedd gwaith marchnata ar draws holl amgueddfeydd Cymru (hyfforddiant, meithrin sgiliau, gwirfoddoli, ymchwil marchnad)

 

-       Hybu, codi proffil a hyrwyddo manteision amgueddfeydd ar hyd a lled Cymru heddiw (cydweithio â phartneriaid ym maes twristiaeth, eiriolaeth, cymryd rhan mewn mentrau cenedlaethol a sefydlu Gwobr Amgueddfeydd Cymru)

 

Twristiaeth sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau

 

49.Yn ogystal â diffinio delwedd Cymru, mae ein hatyniadau a’n gwyliau diwylliannol hefyd yn fusnesau mawr. Mae sawl rhan o’r sectorau diwylliannol a’r celfyddydau’n atyniadau pwysig i ymwelwyr – o Ganolfan Mileniwm Cymru i’n gwyliau rhyngwladol fel Gŵyl y Gelli, Gŵyl Jazz Aberhonddu, Green Man a Dylan Thomas 100. Mae ffilmiau sy’n cael eu saethu yng Nghymru hefyd yn creu marchnad i’r rheini sydd am ymweld â’r lleoliadau gwreiddiol.

 

50.Mae twristiaeth ddiwylliannol yn creu galw am wasanaethau cludiant, llety, ac arlwyo a gwasanaethau busnesau eraill sy’n gysylltiedig â thwristiaeth. Mae celfyddydau Cymru hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map rhyngwladol.

 

51.Mae gweithgarwch rhyngwladol ein hartistiaid a’n sefydliadau celfyddydol, yn broffesiynol ac yn amatur, yn gallu codi proffil Cymru ar lwyfan y byd, ac mae’n gwneud hynny. Mae’r gwyliau niferus sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru bob blwyddyn mewn ystod eang o genres hefyd yn cefnogi’r gwaith hyrwyddo. Gwelsom lwyddiant Womex yng Nghaerdydd y llynedd.

 

52.Eleni, mae digwyddiadau’n cael eu cynnal yma ac yn rhyngwladol i ddathlu geni Dylan Thomas. Dyma enghraifft berffaith o waith partneriaeth ag Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a hefyd ag awdurdodau lleol, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r BBC. Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu 150 mlynedd ers i’r Cymry gyrraedd Patagonia a bydd ein sefydliadau celfyddydol yn rhan o’r dathliadau a gynhelir yma ac yn y Wladfa.

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

53.Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n gyrchfan bwysig ym maes twristiaeth ddiwylliannol yn y Canolbarth. Mae yno wyth ardal arddangos, cyfleusterau i ymwelwyr, a rhaglen ddifyr o ddigwyddiadau diwylliannol.

 

54.Mae’r Llyfrgell hefyd wedi mynd ati, ochr yn ochr ag Amgueddfa Cymru, i feithrin partneriaethau pwysig â gwledydd eraill, gan gynnwys Tsieina, UDA, Ariannin a Japan.

 

55.Mae’n cyfrannu at y gwaith o hyrwyddo Cymru i’r byd, gan gynnwys cymryd rhan mewn mentrau cenedlaethol a rhyngwladol, fel:

 

-       cefnogi dathliadau Dylan Thomas 100 drwy gynnal arddangosfa fawr yn 2014, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd Twristiaeth Ceredigion a Llenyddiaeth Cymru;

 

-       cyfrannu deunydd digidol sy’n ymwneud â diwylliant a threftadaeth Cymru i fenter ryngwladol Europeana / Llyfrgell Ddigidol Ewrop, lle y gellir cael gafael ar ddeunydd wedi’i ddigido o dros 46 gwlad drwy un porth ar-lein

 

-       cefnogi camau i ymgysylltu â chymunedau alltud ym Mhatagonia a Gogledd America, gan ddefnyddio technoleg ddigidol.

 

 

56.Ymhellach, mae gwasanaeth treftadaeth digidol Casgliad y Werin Cymru’n dal i annog ac i alluogi unigolion a chymunedau i rannu’u straeon drwy ddefnyddio gwefan Casgliad y Werin ac adnoddau sydd ar gael am ddim ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth hollbwysig sydd wedi gwella’n sylweddol yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi a’i rhannu ynghylch ein diwylliant a’n treftadaeth.

 

57.I grynhoi, mae ein diwylliant a’n treftadaeth yn meithrin enw da Cymru ac mae’n annog ymwelwyr i ddod yma. Mae ein diwylliant a’n treftadaeth yn ein gwneud yn wahanol ac mae angen rhoi gwybod i bobl am yr hyn sy’n gwneud Cymru’n wlad wahanol i roi rheswm iddynt ymweld â hi. Ochr yn ochr â Croeso Cymru a gwahanol bartneriaid eraill tu mewn a thu allan i’r Llywodraeth, byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn elwa i’r eithaf ar ein hasedau wrth farchnata a datblygu twristiaeth yng Nghymru.

 

 

 

John Griffiths AC

Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Mehefin 2014